Adolygiad Diwylliannol Annibynnol Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru
Mae Crest Advisory wedi cyhoeddi dau adroddiad annibynnol sy’n archwilio diwylliant sefydliadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Daw yr adolygiadau ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn, ym mis Mawrth 2024, gynnig gan y gwasanaethau tân ac achub i wella dealltwriaeth o’r cynnydd mewn gwelliannau i ddiwylliant sefydliadol y ddau wasanaeth.
Dilynodd yr adolygiadau broses ddiduedd a thrylwyr a gynlluniwyd i archwilio meysydd allweddol, gan gynnwys diwylliant y gweithle, cydraddoldeb ac amrywiaeth, boddhad staff, a gweithdrefnau cwynion cyflogaeth. Mae’r adroddiadau yn adlewyrchu mewnwelediadau gweithwyr presennol a chyn-weithwyr sydd wedi rhannu eu profiadau yn gyfrinachol. Mae’r ddau adroddiad yn darparu argymhellion wedi'u teilwra i gefnogi'r ddau wasanaeth i wella diwylliant eu gweithle.
Cynhaliodd Crest y gwaith hwn yn annibynnol er mwyn sicrhau tryloywder, cyfrinachedd a chynhwysiant drwy gydol y broses. Mae’r ddau adroddiad yn adlewyrchu ymrwymiad Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i fynd i’r afael â heriau diwylliannol a chyflawni newid ystyrlon.