top of page

Hysbysiad Preifatrwydd yr Arolwg
---
Survey Privacy Notice

Mae Crest Advisory am ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gosod allan sut a pham byddwn ni’n casglu a defnyddio unrhyw ddata yr ydych chi’n ei rannu drwy gymryd rhan yn yr arolwg.

 

Cefndir yr arolwg a sut i gysylltu â ni

Mae’r arolwg yn ffurfio rhan o adolygiad ddiwylliannol annibynnol o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn dilyn cais Llywodraeth Cymru. Gweler gwefan Crest Advisory am ragor o fanyliad am yr adolygiad yn ei gyfanrwydd.

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd, cysylltwch â ni:

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr adolygiad, cysylltwch â: frsculturereview@crestadvisory.com 

 

Pa wybodaeth ydyn ni’n ei gasglu?

Bydd data arolwg a gasglwyd gan Crest Advisory yn ddienw. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw ddata personol, megis enwau a manylion cyswllt, yn cael eu casglu gan yr arolwg. Fodd bynnag, bydd data anadnabyddadwy yn cael ei gasglu, os bydd cyfranogwyr yn dewis ei rannu trwy'r arolwg — gall cyfranogwyr ddewis 'gwell gennyf beidio ag ateb' i unrhyw gwestiwn heblaw am ba wasanaeth tân y maent yn gweithio iddo. Rhestrir isod data anadnabyddadwy sydd wedi’i gynnwys eng nghwestiynau’r arolwg:

 

  • Eich oedran

  • Eich rhywedd

  • Eich man gweithio

  • Eich ethnigedd

  • Eich hunaniaeth genedlaethol

  • Lefel eich Cymraeg

  • Eich crefydd

  • Anabledd

  • Myfyrdodau/profiadau/barn am y diwylliant yn eich gwasnaeth tân

 

Gofynnir am y data hwn i ddeall a oes unrhyw gydberthynas neu batrymau rhwng barn neu brofiadau gwahanol grwpiau o staff yn y ddau gwasanaeth tân.

 

Er mwyn osgoi adnabod unigolion yn anfwriadol yn yr adroddiad terfynol lle bydd data yr arolwg yn cael ei gyflwyno, byddwn yn atal (‘suppress’) neu’n cyfuno niferoedd bach yn ein dadansoddiad.

 

Ar gyfer data a gynhyrchir gan Crest Advisory drwy’r arolygon, Crest Advisory yw’r unig reolwr data. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd yn berchen ar yr adroddiad ysgrifenedig terfynol, cyhoeddedig, a fydd ond yn cynnwys cyfuniad o ddata yr arolwg drwy dadansoddiad dienw. Mae hyn yn golygu mai dim ond tîm yr adolygiad yn Crest Advisory bydd yn gweithio ar yr arolwg fydd yn gweld yr ymatebion.

Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth? 

Ar bob achlysur, bydd eich data yn cael ei drin fel ei fod yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data (2018) a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), y cyfreithiau sy’n bwysig ar gyfer diogelu data. 

 

Mae technoleg gwybodaeth corfforaethol Crest Advisory yn cael ei gynnal gan Google Workspace, sydd wedi'i achredu i gadw gwybodaeth hyd at ddosbarthiad y llywodraeth o Swyddogol Sensitif. Mae’r seilwaith yn cydymffurfio â gofynion DPA 2018 a GDPR. Mae mynediad i unrhyw systemau technoleg gwybodaeth Crest Advisory yn cael ei reoli trwy reoli cyfrifon defnyddwyr ac mae angen cyfeiriad e-bost Crest a chyfrinair. Mae prawf dilysu dau gam wedi'i alluogi ar bob cyfrif.

 

Beth fyddwn ni’n ei wneud â’ch data? 

Prif bwrpas yr arolwg yw i chi allu rhannu eich myfyrdodau/profiadau/barn am ddiwylliant Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyda ni. 

Bydd yr arolwg yn gofyn am ddata demograffig er mwyn i ni ddeall pa mor gynrychioliadol yw ein sampl, ac i ddeall barn a phrofiadau pobl o wahanol grwpiau o fewn y gwasanaethau tân. Bydd y cwestiynau demograffig yn gofyn am eich rhywedd, oedran, ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, lefel eich Cymraeg, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd/statws mamolaeth, ac a yw cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio arnoch. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i'ch adnabod.

Heblaw am gwestiynau ynglŷn â pha wasanaeth rydych yn gweithio ynddo a’ch rôl, gallwch ddewis peidio ag ateb unrhyw gwestiwn drwy ddewis ‘gwell gennyf beidio ag ateb’. 

 

Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i ni gyhoeddi dyfyniadau o ymatebion testun rhydd yn yr arolwg yn yr adroddiad terfynol. Bydd dyfyniadau bob amser yn cael eu cyflwyno'n ddienw, a bydd unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych yn cael ei dileu.

Bydd data a gesglir drwy’r arolwg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn yn unig, ac ni chaiff ei rannu gyda’r gwasanaethau tân nac unrhyw unigolyn arall. Byddwn yn sicrhau wrth gyflwyno canfyddiadau yn yr adroddiad nad oes modd adnabod unrhyw un, yn enwedig trwy gyfuniad o wahanol ddarnau o wybodaeth. Byddwn yn gwneud hyn yn rhannol drwy gyfuno unrhyw grwpiau bach gyda'i gilydd pan fyddwn yn adrodd ar y canfyddiadau. Bydd data yr arolwg yn cael ei lawrlwytho oddi ar Walr (ein darparwr arolwg) ac yn cael ei adolygu i sicrhau bod unrhyw wybodaeth ag all adnabod rhywun yn cael ei dileu (sy'n golygu na ellir eich adnabod). Bydd hwn wedyn yn cael ei ddadansoddi a'i ddefnyddio ar gyfer paratoi’r adroddiad terfynol.

 

Bydd y canfyddiadau dienw (sy’n golygu na ellir eich adnabod) yn cael eu cyflwyno mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ynghyd â chanfyddiadau o weithgareddau ymgysylltu eraill yr adolygiad.

 

Byddwn yn cadw eich ymatebion dim ond am gyhyd ag sydd ei angen i gwblhau tasgau perthasol. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei dileu’n ddiogel o fewn chwe mis o ddyddiad gorffen y prosiect (tua Gorffennaf 2025).

 

Gan na fyddwn yn casglu unrhyw enwau na manylion cyswllt fel rhan o’r arolwg, ni fydd yn bosibl i ni ddileu eich ymateb i’r arolwg ar ôl iddo gael ei gyflwyno.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch casglu, defnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’n swyddog diogelu data ar y manylion cyswllt a ddarperir uchod.

 

Mae gennych hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (https://ico.org.uk/), awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data. Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddelio â'ch pryderon cyn i chi gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth  felly ystyriwch gysylltu â ni yn gyntaf.

At Crest Advisory, we protect and respect your privacy. This privacy notice tells you why and how we will collect and use (process) any data you provide as part of the survey. 

 

Background to the survey and how to get in touch

The survey forms part of an independent review of culture in Mid and West Wales Fire and Rescue Service (MAWWFRS) and North Wales Fire and Rescue Service (NWFRS), in line with Welsh Government’s request. Details on the review as a whole can be viewed on Crest’s website.

If you have any questions about this privacy notice, including any requests to use your legal rights for your personal data, please contact:

 

If you have any questions about the review, please contact: frsculturereview@crestadvisory.com 

 

What information are we collecting?

Survey data collected by Crest Advisory is anonymous. This means no personal data, such as names and contact details, will be collected by the survey. However, non-identifiable data will be collected, if participants choose to supply it via the survey — participants can choose ‘prefer not to say’ to any question other than which fire service they work for. Non-identifiable data covered by survey questions includes:

 

  • Age

  • Gender

  • Place of work

  • Ethnicity 

  • National identity

  • Level of Welsh language

  • Your religion

  • Disability

  • Thoughts/experiences/opinions about the culture in MAWWFRS and NWFRS.

 

This data is requested to understand if there are any correlation or patterns in the views and experiences of different groups of staff within NWFRS and MAWWFRS. 

 

To avoid unintentionally identifying individuals through the presentation of the survey data in the final report, we will suppress or combine small numbers in our analysis. 

 

For data generated by Crest Advisory through the surveys, Crest Advisory is the sole data controller. MAWWFRS/NWFRS owns the final written, published report, which will only include anonymised and aggregated analysis of the survey data. This means only the Crest Advisory review team working on the survey will see the responses. 

Who will have access to your information?

At all times, your data will be treated as in line with the Data Protection Act (2018) and UK General Data Protection Regulation (UK GDPR), the laws that are important for data protection. Crest Advisory’s corporate IT is hosted by Google Workspace, which is accredited to hold information up to a government classification of Official Sensitive. The infrastructure conforms to DPA 2018 and GDPR requirements. Access to any Crest Advisory IT systems is controlled through user account management and requires a crest email address and password. 2-factor authentication is enabled on all accounts.

 

What will we do with your data? 

The primary purpose of completing the survey is to share with us your thoughts / experiences / opinions about the culture in MAWWFRS and NWFRS. 

The survey will ask for demographic data in order for us to understand how representative our sample is, and to understand the views and experiences of people from different groups within the fire services. This will include information about your gender, age, ethnicity, national identity, Welsh language standard, religion, sexual orientation, pregnancy/maternity status, and whether you are affected by a health condition or disability. This information will not be used to identify you. 

Other than questions about which service you work in and your type of role, you can choose not to answer any question by selecting ‘prefer not to say’.

We will ask for your consent for quotes from any free text responses in the survey to be published in the final report. Quotes will always be presented anonymously, and any potentially identifying information will be removed.

 

The survey data collected will be used for this project only, and will not be shared with the fire services or any other individual. We will ensure when reporting findings that no one is able to be identified, especially by the combination of different pieces of information. We will do this in part by combining any small groups together when we report the findings. Survey data will be downloaded from Walr (our survey provider) and will be reviewed to ensure any identifying information is removed (meaning that you cannot be identified). This will then be analysed and used for reporting.

 

The anonymised findings (meaning that you cannot be identified) will be presented with a report which will be published by MAWWFRS and NWFRS, alongside findings from the other engagement phases of the review.

 

We will keep your responses only for as long as is needed to complete the relevant project tasks. Your personal information will be securely deleted within six months of the project end date (estimated to be July 2025).

 

As we will not collect any names or contact details as part of the survey, it will not be possible for us to remove your response to the survey after it has been submitted.

 

If you have any questions or concerns about the collection, use or disclosure of your personal information, please contact our data protection officer on the contact details provided above.

 

You have a right to make a complaint at any time to the Information Commissioner’s Office (https://ico.org.uk/), the UK supervisory authority for data protection issues. We would, however, appreciate the chance to deal with your concerns before you approach the ICO so please consider contacting us first.

Cymraeg
English
bottom of page